Amdanon ni
Mae Phyl a Ieu wedi bod yn ffrindiau penna ers eu dyddiau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yn yr 80au cynnar.
Mae’r ddau wedi cydweitho’n gyson ers gadael y coleg ar gynhyrchiadau teledu fel Pobol Y Cwm, Doctor Who, Ar Y Tracs, Noson Lawen, Panto Shane A’r Belen Aur a nifer fawr o gynhyrchiadau theatr o Shakespeare i bantomeimiau.
Mae diddordeb wedi bod yn y byd adloniant gyda’r ddau ers amser drwy befformio fel deuawd ac fel unigolion ar hyd a lled y wlad.
Yn ogystal â hyn mae’r ddau wedi cynhyrchu nifer fawr o gynhyrchiadau gyda’i gilydd dros y blynyddoedd o gyngherddau mawreddog i daith genedlaethol o bantomeim ‘Seithenyn A’r Twrw Tanllyd Tanddwr’
Mae’r ddau i’w gweld yn aml hefyd yn arwain gwleddoedd Cymreig yng Nghastell Caerdydd.
ieuan rhys
Partner
Daw Ieuan yn wreiddiol o Drecynon ger Aberdâr – fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.
Ar lwyfan mae Ieuan wedi gweithio gyda’r National Theatre, National Theatre Wales, Wales Theatre
Company, Canolfan Y Celfyddydau, Aberystwyth, Cwmni Theatr Y Torch, Communicado Theatre, Cwmni Theatr Y Sherman, Gŵyl Shakespeare Llwydlo a Chwmni Evolution.
Mae ei waith teledu yn cynnwys 35 Awr, Pitching In, Doctor Who, Gwaith Cartref, DaVinci’s Demons,
Y Gwyll, Diamond Geezer, Yr Heliwr, Tracy Beaker, Ar Y Tracs, Panto Shane A’r Belen Aur, Rocket Man, High Hopes, Siôn a Siân a Pobol Y Cwm.
Mae ei waith ar ffilm yn cynnwys The Englishman Who Went Up A Mountain But Came Down A Hill,
Goldfish In a Blender, Double Top a Ring Finger.
phyl harries
Partner
Brodor o Gwm Tawe yw Phyl yn wreiddiol – fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd A Drama
Cymru.
Ar lwyfan mae Phyl wedi gweithio gyda Theatr Na N’og, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru,
Lighthouse Theatre, Wales Theatre Company, Stafford Shakespeare Company, Gŵyl Shakespeare
Llwydlo, Birmingham Rep a Chwmni Theatr Y Sherman.
Mae ei waith teledu yn cynnwys Martha Jack A Sianco, Torchwood, Ar Y Tracs, Doctor Who, Halen Yn
Y Gwaed, The Light, Tracy Beaker, Tiger Bay, Pobol Y Cwm, High Hopes a Tan Tro Nesa.
Mae ei waith ffilm yn cynnwys Arthur’s Dyke, Mr Nice, A Bit Of Tom Jones a Last Seduction ll .