CYM


ENG

Amdanon ni

Mae Phyl a Ieu wedi bod yn ffrindiau penna ers eu dyddiau yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru yn yr 80au cynnar.

Mae’r ddau wedi cydweitho’n gyson ers gadael y coleg ar gynhyrchiadau teledu fel Pobol Y Cwm, Doctor Who, Ar Y Tracs, Noson Lawen, Panto Shane A’r Belen Aur  a nifer fawr o gynhyrchiadau theatr o Shakespeare i bantomeimiau.

Mae diddordeb wedi bod yn y byd adloniant gyda’r ddau ers amser drwy befformio fel deuawd ac fel unigolion ar hyd a lled y wlad.

Yn ogystal â hyn mae’r ddau wedi cynhyrchu nifer fawr o gynhyrchiadau gyda’i gilydd dros y blynyddoedd o gyngherddau mawreddog i daith genedlaethol o bantomeim ‘Seithenyn A’r Twrw Tanllyd Tanddwr’

Mae’r ddau i’w gweld yn aml hefyd yn arwain gwleddoedd Cymreig yng Nghastell Caerdydd.

ieuan rhys

Partner

Daw Ieuan yn wreiddiol o Drecynon ger Aberdâr – fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Ar lwyfan mae Ieuan wedi gweithio gyda’r National Theatre, National Theatre Wales, Wales Theatre
Company, Canolfan Y Celfyddydau, Aberystwyth, Cwmni Theatr Y Torch, Communicado Theatre, Cwmni Theatr Y Sherman, Gŵyl Shakespeare Llwydlo a Chwmni Evolution.

Mae ei waith teledu yn cynnwys 35 Awr, Pitching In, Doctor Who, Gwaith Cartref, DaVinci’s Demons,
Y Gwyll, Diamond Geezer, Yr Heliwr, Tracy Beaker, Ar Y Tracs, Panto Shane A’r Belen Aur, Rocket Man, High Hopes, Siôn a Siân a Pobol Y Cwm.

Mae ei waith ar ffilm yn cynnwys The Englishman Who Went Up A Mountain But Came Down A Hill,

Goldfish In a Blender, Double Top a Ring Finger.

phyl harries

Partner

Brodor o Gwm Tawe yw Phyl yn wreiddiol – fe’i hyfforddwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd A Drama
Cymru.

Ar lwyfan mae Phyl wedi gweithio gyda Theatr Na N’og, Theatr Clwyd, Theatr Genedlaethol Cymru,
Lighthouse Theatre, Wales Theatre Company, Stafford Shakespeare Company, Gŵyl Shakespeare
Llwydlo, Birmingham Rep a Chwmni Theatr Y Sherman.

Mae ei waith teledu yn cynnwys Martha Jack A Sianco, Torchwood, Ar Y Tracs, Doctor Who, Halen Yn
Y Gwaed, The Light, Tracy Beaker, Tiger Bay, Pobol Y Cwm, High Hopes a Tan Tro Nesa.

Mae ei waith ffilm yn cynnwys Arthur’s Dyke, Mr Nice, A Bit Of Tom Jones a Last Seduction ll .

Cai Rhys

Cydlynydd Cyfryngau Cymdeithasol
A Chynllunydd Gwefan

Ganed Cai yng Nghaerdydd.
 
Mae’n fyfyriwr ar hyn o bryd ym Mhrifysgol Abertawe yn astudio Cyfryngau a Chysylltiadau Cyhoeddus.
 
Mae hefyd wedi ymddangos ar Gwaith Cartref, Enid a Lucy, Pobol Y Cwm a Casualty.
 
Mae Cai yn gobeithio bod yn actor proffesiynol yn y dyfodol.