Camera! Goleuadau! ACTION! Mae’r Colisewm yn barod am noson fythgofiadwy gyda’r arwr Shane Williams.
Phyl a Ieu
Croeso i ddigwyddiad cyntaf Ad/Lib Cymru gan y ddau gyfaill Phylip Harries a Ieuan Rhys.
Shane Williams
Yr arwr yn gwneud ei hun yn gyfforddus , yn barod i gael ei holi ac i adrodd hanes ei brofiadau ar goedd.
Cofio'r Gorffennol
Shane yn edrych yn ol ar ei brofiadau fel un o chwaraewyr mwyaf llwyddiannus Cymru, yn ogystal a’i brofiadau yn chwarae i’r tim Siapaneaidd Mitsubishi Dynaboars.
Storiau Direidus
Shane yn siarad am storiau oddi ar y cae heb y bel hirgron drwy siarad am ei briodas, ei deulu a’i brofiadau ar ôl ymddeol.
Holi Shane
Phyl a Ieu yn cyflwyno’r noson yn Aberdar, ac yn cadw cwmni i Shane ar y llwyfan drwy ei holi a grwando ar ei straeon wrth gwrs!
Atgofion Gwerthfawr
Pleser ar wyneb Shane wrth edrych nôl dros ei fywyd lliwgar gyda theatr lawn a chynulleidfa hapus yn mwynhau’r achlysur gwerthfawr.
Diweddglo
Shane yn cymryd y ‘bow’ olaf gan ddiolch i’r gynulledifa anhygoel yn y Colisewm i am noson gwerth chweil a llwyddianus yn Aberdar.
Noson Llwyddiannus
Noson lwyddiannus i’r ‘3 musketeer’
yn y Colisewm, Aberdar. Mas I’r cyntedd nawr er mwyn I’r gynulleidfa cwrdd a
seren y noson – Shane Williams.